"Roedd maethu bob amser yng nghefn fy meddwl, ond nid oeddwn yn siŵr a fyddwn yn gallu ei wneud, oherwydd roeddwn yn fenyw sengl," eglurodd Rolande Richards, sy'n 55 oed, ac o Ben-y-bont ar Ogwr.

Yn ffodus i Ms Richards, mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn agored i unrhyw un ddod yn ofalwr maeth.

Mae'r gofynion ar gyfer maethu yn syml, i fod yn gymwys, rhaid i chi fod yn gallu darparu amgylchedd teulu sefydlog a chariadus fel y gall plant a phobl ifanc gyrraedd eu llawn botensial yn hyderus.

Roedd Ms Richards wastad wedi bod eisiau maethu, ond roedd yn teimlo na fyddai byth yn cael y cyfle oherwydd nad oedd yn briod ac nid oedd ganddi blant ei hun. Yn ffodus, newidiodd bopeth pan welodd hysbyseb papur newydd yn y papur lleol.

Roedd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn hysbysebu am ofalwyr maeth a phenderfynodd Ms Richards fynd amdani a rhoi caniad i'r Cyngor. Roedd hyn ym 1998 ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny.

"Rwyf wedi bod yn maethu ers 21 mlynedd ac rwyf wrth fy modd", dywedodd Ms Richards. "Roedd fy mhrofiad cyntaf yn un byr gan yr oedd yn un brys a dim ond am bedair awr yn unig oedd y plentyn gyda fi. I ddechrau arni, roedd yn rhyfedd iawn cael plentyn heb unrhyw gysylltiad â chi, ond sy'n byw gyda chi ac rydych yn gyfrifol amdano."

Dod o hyd i gysylltiad â'r plentyn oedd un o'r pethau cyntaf a ddysgodd Ms Richards am faethu, a sylweddolodd ei fod yn bwysig cydymdeimlo â'r plentyn a'r sefyllfa y maent ynddi.

"Mae'n rhaid i chi wneud iddynt deimlo'n rhan o'r teulu gymaint ag y gallwch," cynghorodd Ms Richards. "Gall fod yn brofiad dychrynllyd i'r plentyn, felly mae'n bwysig gofyn iddynt beth maent yn ei hoffi a beth nad ydynt yn ei hoffi, a'u helpu i setlo yn eich cartref."

Dros y blynyddoedd, mae Ms Richards wedi cael cymorth parhaus gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr ac mae wedi sicrhau bod gan Ms Richards hyfforddiant perthnasol a bod rhywun bob amser ar ben arall y ffôn.

"Mae pob gofalwr maeth yn cael cymorth gan y tîm yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr," dywedodd Ms Richards. "Gan fy mod yn ofalwr sengl, mae pawb bob amser wedi cymryd hynny i ystyriaeth ac maent yn gwybod na allaf fod mewn dau le ar yr un pryd. Mae yna hefyd rwydwaith cymorth gwych â gofalwyr maeth eraill ac rwyf wedi cwrdd â phob un o fy ffrindiau agos drwy faethu."

Gwnaeth y cymorth hwn hefyd helpu Ms Richards yn ystod ei chyfnod pontio rhwng maethu a mabwysiadu. 15 mlynedd yn ôl, gwnaeth Ms Richards faethu merch fach cyn penderfynu ei mabwysiadu. Yna, cafodd mam naturiol y plentyn, blentyn arall, a phenderfynodd Ms Richards fabwysiadu'r plentyn hwnnw hefyd.

Eglurodd Ms Richards: "Mae fy merch yn 15 oed ac mae fy mab yn 12 oed ac mae'r holl brofiad wedi bod yn hyfryd. Mae maethu wedi fy ngwneud yn fam, gan fod gennyf ddau o blant na fyddwn erioed wedi'u cael pe bawn heb faethu."

Er bod ganddi ddau o blant ei hun bellach, nid yw hyn wedi atal Ms Richards rhag maethu mwy o blant ac mae'n frwd dros helpu plant yn ei chymuned.

"Mae maethu yn brofiad anhygoel gan ei fod yn rhoi safbwynt newydd ar fywyd i chi," dywed Ms Richards. "Os ydych yn meddwl amdano, ffoniwch er mwyn darganfod mwy. Mae'n beth gwobrwyol iawn i'w wneud."

Pam ddylech faethu gyda Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr?

Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn gymwys iawn i helpu pobl a fyddai'n hoff o faethu. Yn ogystal, mae nifer o wahanol fathau o faethu, o fod yn ofalwr maeth hirdymor i gynnig gofal seibiant, felly mae amrywiaeth o opsiynau i weddu i amgylchiadau gwahanol.  Dyma rai rhesymau dros feddwl am faethu gyda Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â dod yn ofalwr maeth, darparydd llety â chymorth a gofalwr maeth dros dro, ewch i bridgendfostercare.wales neu cysylltwch â thîm maethu Pen-y-bont ar Ogwr ar 01656 642674.